Cartref > Gwerthu Eiddo
 ninnau wedi ennill ein plwyf fel Syrfewyr Siartredig, rydym ni wedi bod yn darparu cyngor proffesiynol arbenigol ar eiddo ers dros 140 o flynyddoedd.
Afraid dweud bod y maes gwerthu tai wedi newid yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae cofleidio'r newidiadau hynny dros amser wedi bod yn allweddol i'n llwyddiant.
Er ein bod yn dibynnu fwyfwy ar dechnoleg a systemau’r rhyngrwyd, rydym ni dal i gredu y bydd yr egwyddorion sylfaenol yn aros. Mae cyfathrebu’n allweddol i sefydlu cysylltiad cryf gyda chleientiaid, a bydd hynny yn ei dro’n arwain at berthynas lwyddiannus, ddi-straen.
Rydym ni’n ymwneud ag ystod amrywiol o eiddo, ac yn arbenigo mewn gwerthu eiddo preswyl, masnachol ac amaethyddol trwy nifer o wahanol ddulliau, yn ddibynnol ar eich anghenion.
Mae ein henw da ar draws gogledd Cymru a thu hwnt yn golygu bod gennym gynulleidfa fawr, sy’n rhoi’r llwyfan mwyaf posibl i'n cleientiaid.
Cysylltwch â ni i gael cyngor prisio a manylion ein telerau am ddim, heb orfod ymrwymo.