Cartref > Arwerthiannau Eiddo
Rydym ni’n arbenigwyr yn y maes ocsiwn, ac yn cynnal arwerthiannau rheolaidd ledled Gogledd Cymru.
Mae’n ddull gwerthu sy’n cael ei ddiystyru’n aml iawn, ond byddai Jones Peckover wrth ein bodd yn trafod manteision y broses gyda chi. Yn aml iawn, mae prisiau eiddo sy’n cael eu gwerthu mewn ocsiwn yn mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau cleientiaid.
Mae’r eiddo rydym ni’n eu gwerthu mewn ocsiwn yn cael eu marchnata'n arbenigol, gyda chytundeb cyfreithiol wedi'i lofnodi’n syth ar ôl ergyd y morthwyl.
Mi fyddwn wrth ein boddau yn eich tywys drwy'r broses werthu fanteisiol, syml a di-lol.
Os nad yw ocsiwn cyhoeddus yn gweddu i'ch anghenion, rydym ni hefyd yn cynnig dull ocsiwn ar-lein. Gall ein gwerthwyr proffesiynol drafod y manylion, a rhoi cyngor ynghylch pryd mae gwerthu mewn ocsiwn ar-lein fwyaf addas.